Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 29 Medi 2015
Amser: 08.30 -
08.55
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Y Fonesig Rosemary Butler (Cadeirydd) Paul Davies Jane Hutt Elin Jones Aled Roberts |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Peter Greening, Llywodraeth Cymru |
Cafwyd ymddiheuriadau gan y Dirprwy Lywydd.
Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.
Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai pob pleidlais mewn perthynas â'r Bil Llywodraeth Leol (Cymru) yn digwydd yn ystod trafodion Cyfnod 3.
Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes ei bod yn bwriadu atal y trafodion am egwyl o ddeng munud cyn dechrau ar drafodion Cyfnod 3.
Nododd y Rheolwyr Busnes na fyddai Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal Cyfnod Pleidleisio ddydd Mercher cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 21 Hydref 2015 –
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar yr ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Trafododd y Rheolwyr Busnes lythyr gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ynghylch yr amserlen ar gyfer Cyllideb 2016-17.
Dywedodd y Gweinidog fod y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei Hadolygiad o Wariant yn hwyr wedi effeithio ar gadarnhau Cyllideb Ddrafft 2016-17 ond dywedodd wrth y Rheolwyr Busnes am ei bwriad i gyhoeddi'r Gyllideb Ddrafft ar 8 Rhagfyr 2015 a'r Gyllideb Derfynol ar 1 Mawrth 2016.
Hefyd, dywedodd y Gweinidog wrth y Rheolwyr Busnes ei bod wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn nodi'r amserlen arfaethedig. Cytunodd y Rheolwyr Busnes pe bai'r Cadeirydd yn cadarnhau ei bod yn fodlon ar y dyddiad cau arfaethedig o 2 Chwefror ar gyfer cyflwyno adroddiad, y byddent yn fodlon ar y dyddiad cau hwn ac y dylai'r amserlen hon gael ei chadarnhau a'i chyhoeddi cyn y cyfarfod nesaf.
Trafododd y Rheolwyr Busnes bapur yn amlinellu'r dull arfaethedig ar gyfer ymdrin ag Adroddiad Etifeddiaeth y Pwyllgor.
Cymeradwyodd y Rheolwyr Busnes y cylch gorchwyl a'r dull arfaethedig o ymgynghori a nodwyd yr amserlen arfaethedig.
Gofynnodd y Pwyllgor hefyd am gynnal cyfarfod pwrpasol ychwanegol ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben ddiwedd mis Tachwedd i ystyried y dystiolaeth a gasglwyd.
Trafododd y Rheolwyr Busnes bapur yn adolygu'r arfer presennol ar gyfer Cwestiynau Llafar y Cynulliad, yn benodol cyflwyno cwestiynau amserol.
Ystyriodd y Llywydd gais gan Reolwyr Busnes y Gwrthbleidiau i gyhoeddi pob cais am Gwestiwn Brys, ond gwrthododd y cais ar y sail na fyddai cyhoeddi rhestr yn mynd i'r afael â'r broblem o alluogi'r Aelodau i ofyn cwestiynau amserol.
Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am bapur ychwanegol gydag opsiynau pellach ar gwestiynau amserol i'r Grwpiau Plaid ei ystyried ac i ddychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.